Background information provided for Welsh students

Introduction

"Wel, mae rhai pobl braidd yn amheus o'r syniad o glonio anifeiliaid, ond pam lai? Mi allech chi glonio ceffyl rasio buddugol - maen nhw wedi gwneud hynny'n barod dw i'n meddwl. Ie, clonio anifeiliaid – wela i ddim byd o'i le ar hynny."

Beth yw clonio?

Caiff clonio'i ddefnyddio i gynhyrchu anifeiliaid sydd â nodweddion y mae pobl yn eu hoffi. Pan grëwyd y ci cyntaf i gael ei glonio, yn Ne Corea, cyfiawnhawyd hynny trwy ddweud y gellid defnyddio anifeiliaid wedi'u clonio i helpu i ddileu diffygion genetig. Mae technoleg clonio hefyd yn cael ei defnyddio i geisio creu 'copïau' o anifeiliaid anwes, ceffylau rasio llwyddiannus, a rhywogaethau sydd mewn perygl (neu hyd yn oed rai diflanedig), ac i wneud anifeiliaid a allai ddod â budd meddygol i fodau dynol, efallai trwy gynhyrchu deunydd fferyllol yn eu llaeth.

Pa fathau o anifeiliaid sydd wedi cael eu clonio?

Ym 1952, penbwl oedd yr anifail cyntaf i gael ei glonio. Er pan gloniodd gwyddonwyr yn Ne Corea y ci cyntaf, mae cŵn a chathod wedi cael eu copïo. Cynhyrchwyd y llygoden gyntaf a gloniwyd gan wyddonwyr Americanaidd, a'i galw'n Cumulina. Mae defaid, cathod, ceffylau, buchod, geifr, pysgod, pryfed ffrwythau, cwningod a moch hefyd wedi cael eu clonio. Mae anifeiliaid anwes a cheffylau rasio llwyddiannus wedi cael eu clonio.

Beth yw eich barn chi?

Beth yw eich barn chi ynglŷn â moeseg clonio anifeiliaid? Pa mor bell allai hynny fynd - ai clonio anifeiliaid dynol fyddai'r cam nesaf? Holwch beth yw'r ddeddfwriaeth ynglŷn â chlonio yn y wlad hon.

Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Os gallwch chi glonio ceffyl rasio buddugol, rwy'n meddwl bod clonio anifeiliaid yn iawn."

Pam mae anifeiliaid yn cael eu clonio?

Mae anifeiliaid yn cael eu clonio am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • Os na all anifeiliaid atgynhyrchu yn naturiol, ond bod eu genynnau o ddiddordeb gwyddonol neu fasnachol. Gallai hynny fod oherwydd:
    • nad yw'r anifail yn ffrwythlon iawn, neu ei fod yn anffrwythlon
    • bod perygl bod yr anifail ar fin diflannu am byth ac nad oes parau ar ôl sy'n bridio
    • bod yr anifail wedi cael ei ysbaddu cyn i neb sylweddoli fod ganddo enynnau a oedd o ddiddordeb.
  • Os oes gan anifail gyfuniad unigryw neu benodol o enynnau y mae ar fodau dynol eisiau eu cadw yn union fel y maent (bydd bridio unrhyw ddau anifail yn naturiol yn cynhyrchu epil sy'n cynnwys cyfuniad o enynnau oddi wrth y ddau riant, ac felly, os oes angen copi unfath, clonio yw'r unig ateb).
  • I alluogi datblygu technegau clonio ymhellach, er enghraifft, i wella cyfraddau llwyddo neu fel bod modd clonio gwahanol rywogaethau.

Ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn ymchwil ac arbrofion?

Mae'r nifer o anifeiliaid trawsenynnol (gan gynnwys anifeiliaid wedi'u clonio) sy'n cael eu creu a'u defnyddio ar gyfer ymchwil ac arbrofion gwyddonol yn cynyddu'n syfrdanol o flwyddyn i flwyddyn. Y rheswm am hynny yw bod y dechnoleg yn datblygu'n barhaus, fel bod modd ei defnyddio i wneud llawer mwy o bethau mewn nifer gynyddol o rywogaethau. Mae hynny'n arwain at gynyddu cyfanswm yr anifeiliaid a ddefnyddir mewn ymchwil ac arbrofion gwyddonol bob blwyddyn. Gall defnyddio anifeiliaid trawsenynnol mewn ymchwil ac arbrofion annog edrych arnynt fel offer i'w defnyddio gan ddynion, yn hytrach nag anifeiliaid unigol sydd â theimladau ac a all ddioddef.

Beth am anifeiliaid diflanedig neu anifeiliaid sydd mewn perygl?

Mae technoleg clonio'n cael ei defnyddio i greu 'copïau' o rywogaethau sydd mewn perygl (neu hyd yn oed rai diflanedig). Mae gwyddonwyr yn Rwsia a Japan wedi ceisio clonio'r mamoth gwlanog diflanedig, ond hyd yma nid yw'r ymdrechion wedi llwyddo.

Beth yw eich barn chi?

Ai clonio yw'r ateb i rwystro rhywogaethau sydd mewn perygl rhag darfod am byth? Pa fathau o bethau y dylid eu hystyried - o safbwynt lles anifeiliaid ac o safbwynt moesegol - gan wyddonwyr sy'n ceisio clonio anifeiliaid diflanedig? Beth yn eich barn chi yw manteision ac anfanteision defnyddio clonio i wneud hyn?

Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Os gallwch chi glonio ceffyl rasio buddugol, rwy'n meddwl bod clonio anifeiliaid yn iawn."

Sut mae clonio'n gweithio

Mae clonio'n dechneg wyddonol benodol sy'n defnyddio DNA o un organeb i gynhyrchu organebau eraill sy'n union yr un fath yn enetig. Mae'n haws gwneud hynny â rhai organebau na rhai eraill, ond nid yw'n eglur pam y mae hynny'n bod. Mae clôn yn cynnwys yr un dilyniant o DNA yn ei gelloedd â'r organeb y cafodd ei glonio oddi wrtho. Er hynny, ni fydd o anghenraid yn edrych nag yn ymddwyn yr un fath gan y gall yr amgylchedd y mae'r clôn yn datblygu ynddo effeithio ar y ffordd y caiff y wybodaeth yn y DNA ei throi'n nodweddion, fel maint a natur.

Beth yw eich barn chi?

Aeth cwmni yn UDA ati i hysbysebu gwasanaeth clonio cathod anwes, ond caeodd oherwydd diffyg galw. Beth fyddai'r achos dros ac yn erbyn clonio hoff anifail? Pam tybed roedd cyn lleied o alw am glonio anifeiliaid anwes?

Dysgu mwy

Pa ganran o embryonau wedi'u clonio sy'n goroesi hyd enedigaeth? Pa mor debygol yw'r anifeiliaid o oroesi yn yr hirdymor? Edrychwch yn y ddolen hon.

Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Os gallwch chi glonio ceffyl rasio buddugol, rwy'n meddwl bod clonio anifeiliaid yn iawn."

A yw anifeiliaid wedi'u clonio yn dioddef?

Mae clonio anifeiliaid yn golygu triniaethau sy'n peri poen a gofid iddynt, ac mae'n destun pryder difrifol i'r RSPCA o ran moeseg a lles, am nifer o resymau:

  • mae'r broses glonio'n golygu triniaethau arbrofol a all beri poen a dioddefaint i anifeiliaid, fel trawsblannu embryonau wedi'u clonio trwy lawdriniaeth i mewn i anifeiliaid benyw sy'n gweithredu fel mamau benthyg
  • caiff llawer o anifeiliaid wedi'u clonio eu geni â nodweddion annormal, fel problemau anadlu, tiwmorau a diffygion ar yr iau/afu, ac yn aml mae eu hoes yn fyrrach
  • tra byddant yn cael eu clonio, bydd anifeiliaid yn byw mewn labordy, dan yr un amodau ag unrhyw anifail ymchwil, sydd ymhell o fod yn ddelfrydol o ran lle nac o ran gallu ymddwyn yn naturiol
  • mae creu 'copïau' o anifeiliaid anwes, ceffylau rasio llwyddiannus, a rhywogaethau sydd mewn perygl (neu hyd yn oed rai diflanedig) yn gwbl annerbyniol - ni all fod cyfiawnhad dros glonio anifeiliaid i wella perfformiad, neu i 'ail-greu' anifail anwes, pan fo miloedd o gathod a chŵn digartref y gellid rhoi cartref llawn cariad iddynt.

Dysgu mwy

Pa niwed a manteision posibl y mae llywodraeth y DU yn eu nodi o ran datblygu technoleg i glonio anifeiliaid fferm? Pa egwyddorion cyffredinol y mae'n eu hargymell? Rhowch gynnig ar y ddolen hon

Ewch i'r  ddolen hon i weld beth mae Eurogroup for Animals yn ei feddwl.

Munud i feddwl

A fyddai technolegau clonio yn gwneud ffermio'n rhatach ac yn haws? Beth fyddai'r goblygiadau o ran lles anifeiliaid? Beth am y goblygiadau ar gyfer y gymdeithas gyfan?

The RSPCA is a charity registered in England & Wales no. 219099