"Edrycha, mae hi'n galed arnon ni, a dim ond imi allu prynu bwyd rhad, dw i'n malio 'run daten sut mae'n cael ei gynhyrchu na beth sy'n digwydd i'r anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio. Dw i wedi hen 'laru ar raglenni teledu sy'n trio gwneud imi deimlo'n euog. Nid dim ond fy mhroblem i ydy hi."
Sut mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd rhad?
Ers yr Ail Ryfel Byd, bu ffermwyr o dan fwy a mwy o bwysau i gynhyrchu bwyd rhatach i blesio'r defnyddiwr. Oherwydd hynny bu pwyslais cyson ar gynyddu cynhyrchiant, trwy ffermio dwys.
Beth yw ffermio dwys?
Ystyr ffermio dwys yw ceisio cynhyrchu cymaint o fwyd ag y bo modd o'r tir, y planhigion a'r anifeiliaid sydd ar gael. Gall olygu defnyddio llawer o gyfalaf, llafur neu systemau arbed llafur a chemegau i gael cymaint o gynnyrch ac elw ag y bo modd o bob uned o dir. Ar un adeg, rhywbeth i ffermydd cymharol fychan, fel gerddi masnachol, oedd amaethu dwys, ond erbyn hyn mae'n cael ei wneud gan fusnesau amaethyddol masnachol mawr sy'n gwerthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol trwy gadwyni archfarchnadoedd. Mae'r galw cynyddol am fwyd, ac am fwy o amrywiaeth o fwyd, wedi arwain at ddefnyddio dulliau dwys ar fwy a mwy o dir yn y gwledydd mwyaf datblygedig yn economaidd.
Beth mae hyn yn ei olygu i les anifeiliaid?
Efallai fod dulliau ffermio dwys yn effeithlon, ond maent yn golygu cyfyng-gyngor moesegol. Mae'r RSPCA yn pryderu bod masgynhyrchu anifeiliaid yn fasnachol i gynhyrchu bwyd yn y diwydiant da byw yn achosi dioddefaint, boed hynny trwy gadw'r anifeiliaid mewn lle cyfyng a/neu oherwydd bod rhai systemau'n llwm iawn, neu oherwydd diffygion dulliau cludo neu dechnegau lladd.
Wyddech chi?
Mae tua 99 y cant o bobl yn y Deyrnas Unedig yn bwyta cynhyrchion anifail o ryw fath, fel cig, wyau, llaeth, caws - ac maent hefyd yn defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel lledr. Caiff tua 900 miliwn o anifeiliaid eu lladd ar gyfer bwyd bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig (tua 16 i bob person).
Munud i feddwl
Fel arfer mae bocs o chwe wy canolig eu maint gan ieir a gedwir mewn cawell fatri yn costio llai na phunt. Os mai wyau ieir buarth neu ieir maes ydynt, mae hyn fel rheol yn ychwanegu tua 50 y cant at y gost. Fuasech chi'n prynu'r wyau buarth/maes, neu'r wyau batri? Pa rai fuasech chi'n eu prynu petai'r gwahaniaeth yn y costau hyd yn oed yn fwy?
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf hwn: "Mae angen imi brynu bwyd rhad, a does dim ots gen i sut mae'n cael ei gynhyrchu."
A all defnyddwyr newid pethau?
Yn 2008, cynhaliodd Jamie Oliver a Hugh Fearnley-Whittingstall ddwy ymgyrch amlwg iawn yn y cyfryngau ochr yn ochr ag ymgyrch lles cywion ieir yr RSPCA, i dynnu sylw at yr amodau y caiff cywion brwylio (ieir cig) ac ieir cewyll (ieir dodwy wyau) eu cadw ynddynt. O ganlyniad, mae'n debyg bod llawer mwy o bobl bellach yn dewis prynu cywion ieir ac wyau sy'n cael eu cynhyrchu mewn ffordd fwy caredig i les anifeiliaid, er gwaethaf y cyfnod economaidd anodd. Nid yw rhai archfarchnadoedd, fel Waitrose, yn cadw cywion ieir safonol erbyn hyn, oherwydd y newid yn y galw.
Dysgu mwy
Ewch ati i ddarganfod sut y bu cynnydd o 32 y cant yng ngwerthiant dofednod lles-gwell o ganlyniad i ymgyrchoedd Jamie a Hugh, gyda stoc rhai archfarchnadoedd yn cael ei ddihysbyddu. Cefnogodd papur newydd The Independent yr ymgyrch ym mis Chwefror 2008, a chynhwysodd y rhan fwyaf o bapurau newydd Prydain storïau am yr ymgyrch.
Darllenwch beth sydd gan Jamie Oliver a Hugh Fearnley-Whittingstall i'w ddweud am gywion ieir lles-gwell yn: dolen.
Beth mae archfarchnadoedd yn ei gadw
Mae holl archfarchnadoedd mawr y Deyrnas Unedig yn dweud bod arnynt angen cynhyrchion a phrisiau sy'n gweddu i bwrs pawb. Ond mae llawer ohonynt yn newid eu stoc, o ganlyniad i alwadau defnyddwyr am fwy o sylw i les anifeiliaid.
Munud i feddwl
Dysgu mwy
Gallwch weld ym mha archfarchnadoedd y cynyddodd gwerthiant cywion ieir lles-gwell, trwy ddilyn yddolen hon.
Munud i feddwl
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Mae angen imi brynu bwyd rhad, a does dim ots gen i sut mae'n cael ei gynhyrchu."
Pam mae ffermwyr yn defnyddio safonau lles is i fagu ieir bwyta?
Oherwydd bod archfarchnadoedd yn meddwl bod defnyddwyr yn galw am gig rhad, gallant ddweud wrth ffermwyr am gyflenwi hynny. Mae rhai pobl yn meddwl mai'r ffordd fwyaf cost-effeithiol i ffermwyr wneud hynny yw rhoi cynifer ag y gallant o ieir mewn amgylchedd y gallant ei reoli - fel cwt amgaeedig - ac yna eu hannog i dyfu cyn gynted ag y bo modd. Caiff tua 830 miliwn o gywion ieir eu magu am eu cig yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
Dysgu mwy
Ai magu dwys yw'r ffordd fwyaf costeffeithiol mewn gwirionedd o gynhyrchu ieir bwyta? Cewch wybod yn: dolen.
Cewch wybod am systemau lles-gwell, fel y rhai sy'n defnyddio safonau lles yr RSPCA, yn: dolen.
Beth yw ystyr y labeli?
Mae labelu clir yn hynod o bwysig fel y gall defnyddwyr wneud dewis gwybodus yngl?n â'r cynhyrchion y maent yn eu prynu.
Mae'r RSPCA yn argymell y dylai'r defnyddiwr fod â'r hawl i wybod sut y caiff pob anifail fferm ei fagu, ac y dylai cynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys cynhyrchion nad ydynt yn fwyd) fod â label arnynt yn nodi'r dull cynhyrchu a'r wlad wreiddiol.
Nid yw'r labeli a gaiff eu defnyddio ar hyn o bryd yn dweud fawr ddim wrth ddefnyddwyr:
Dysgu mwy
Gallwch weld beth mae Tesco a Waitrose yn ei ddweud am y cywion ieir sydd ar werth yn eu harchfarchnadoedd: dolen.
Ewch ati i ddarganfod beth yw ystyr cynnyrch maes, bridio awyr agored a magu awyr agored pan gaiff y geiriau hynny eu defnyddio ar gyfer cynhyrchion porc, trwy ddilyn y ddolen hon.
Munud i feddwl
Sut buasech chi'n labelu cynhyrchion, fel bod pobl gyffredin sy'n siopa yn deall yn glir pa mor garedig i les anifeiliaid fu'r cynhyrchu?
Sut byddwn ni'n cynhyrchu wyau?
Yn y Deyrnas Unedig mae tua 34 miliwn o ieir sy'n dodwy wyau. Mae'r ieir hyn yn cael eu cadw yn un o'r tair system ganlynol, ac (yn 2010) roedd tua:
Mae angen mwy o sgiliau i ofalu am systemau sgubor a maes (buarth), ond gallant gynnig safonau lles llawer uwch, o gymharu â chewyll.
Sut mae ieir mewn cewyll batri'n dioddef?
Dysgu mwy
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i ddarganfod pa newidiadau a ddaw i rym yn ymwneud â chewyll batri yn 2012 yn Ewrop, a sut y byddant yn effeithio ar ieir dodwy: dolen.
Wyddech chi?
Pa gyfreithiau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid fferm?
Mae lles pob anifail fferm yn dod o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n ei gwneud yn drosedd achosi dioddef diangen i unrhyw anifail. Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys dyletswydd gofal am anifeiliaid - rhaid i unrhyw un sy'n gyfrifol am anifail gymryd camau rhesymol i wneud yn si?r bod anghenion lles yr anifail hwnnw'n cael eu diwallu. Er hynny, mae'r gyfraith hefyd yn cynnwys ystyriaeth o arferion ffermio cydnabyddedig, sy'n golygu bod systemau sy'n llai cydnaws â lles, fel cawell fatri, yn dal i gael eu caniatáu. Mae cyfreithiau eraill hefyd sy'n rhai penodol i anifeiliaid fferm, fel Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir 2007, sy'n cynnwys rhai gofynion sylfaenol yn ymwneud â'r ffordd y dylid eu cadw.
Mae'r Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm yn hyrwyddo mabwysiadu'r 'Pum Rhyddid', sy'n dweud y dylid ceisio sicrhau'r cyflyrau delfrydol hyn:
Ond nid safonau lles anifeiliaid y diwydiant yw'r rhain.
Beth yw safonau'r diwydiant ar gyfer lles ieir dodwy?
Rhaid i safonau lles gofynnol y diwydiant ymgorffori'r gofynion cyfreithiol sylfaenol, ond yn aml, dyna'r cyfan a wnânt. Er enghraifft, mae ar ieir angen ymestyn ac ysgwyd eu hadenydd, clwydo a phigo'r ddaear, a chael amgylchedd diddorol i'w rhwystro rhag diflasu. Ond o dan gyfreithiau presennol Ewrop, mae pob iâr yn cael cymaint â darn A4 o bapur o le y gall ei ddefnyddio.
Munud i feddwl
A yw cyfreithiau'n gwneud digon i warchod anifeiliaid? Pa bethau eraill, ar wahân i gyfreithiau gwell, fyddai'n gwella lles anifeiliaid, yn eich barn chi?
A yw archfarchnadoedd yn mynnu cael wyau rhad?
Marks and Spencer oedd y manwerthwr cyntaf i roi'r gorau i werthu wyau yn eu plisgyn a oedd wedi eu dodwy gan ieir cewyll. A dim ond wyau buarth neu faes yr oedd yn eu defnyddio mewn cynhyrchion hefyd.
Rhoddodd Waitrose y gorau i werthu wyau yn eu plisgyn a oedd wedi eu dodwy gan ieir cewyll yn 2001. A yw hyn yn dangos mai dim ond archfarchnadoedd sy'n galw am wyau rhad?