Background information provided for Welsh students

"Dw i'n gwybod bod pobl yn teimlo'n gryf yngl?n â gwneud newidiadau genetig i anifeiliaid ar gyfer meddyginiaethau ac yn y blaen, ond does gen i ddim llawer o ddiddordeb yn hynny. Dychmygwch y peth bach yma efo ffwr fflworolau – mae’n bosib ei wneud! Y gwaith celf go iawn fyddai’r broses o fyw efo fo. Medrai newid genetig fod yn gyfrwng newydd rhyfeddol i artistiaid, a ddylen ni mo'i adael yn nwylo ychydig o wyddonwyr a gwleidyddion yn unig."

Beth yw GA neu NG?

Ystyr GA neu NG yw newid genetig. Os yw organeb wedi cael ei newid yn enetig, mae gwyddonwyr wedi mynd ati'n fwriadol i newid dilyniant arferol ei DNA mewn ffordd nad yw'n bosibl trwy fridio naturiol na detholus - mewn geiriau eraill, mae genyn wedi cael ei ychwanegu, ei ddileu neu ei addasu. Weithiau defnyddir y termau  addasu genetig neu peiriannu genetig yn lle newid genetig. Yma byddwn yn defnyddio newid genetig (NG).

Anifeiliaid a newidiwyd yn enetig

Mae anifeiliaid a newidiwyd yn enetig (anifeiliaid NG) yn tarddu o anifeiliaid arferol. Deuant o embryonau y newidiwyd eu DNA (cod genetig) trwy:

  • ychwanegu copïau o enyn neu ddilyniant DNA arferol
  • ychwanegu DNA newydd neu enyn na fyddai yno fel rheol
  • tynnu DNA arferol allan neu newid DNA arferol.

Ar ôl cynhyrchu anifail NG, yn aml mae modd bridio o'r anifail hwnnw i gynhyrchu llinell o anifeiliaid tebyg a newidiwyd yn enetig. Bydd gan yr holl anifeiliaid yn y llinell enoteipiau a ffenoteipiau tebyg, gan eu bod fel rheol yn cael eu mewnfridio.

Yn aml cyfeirir at anifeiliaid a newidiwyd trwy ychwanegu genyn o rywogaeth wahanol fel anifeiliaid  trawsenynnol.

Pam y caiff anifeiliaid NG eu cynhyrchu?

Cynhyrchwyd anifeiliaid a newidiwyd yn enetig am amrywiaeth o resymau.

Newidiwyd  buchod, moch, ieir ac eogiaid i'w cael i dyfu'n gyflymach neu i gynhyrchu mwy, er mwyn darparu bwyd i fodau dynol.

Newidiwyd ieir, defaid, geifr a chwningod i greu anifeiliaid a all gynhyrchu sylweddau biolegol yn eu hwyau neu eu llaeth, gan ddarparu ffyrdd rhad ac effeithlon o gynhyrchu'r sylweddau hynny ar gyfer meddyginiaethau, ymchwil neu fasnach.

Newidiwyd pysgod i newid eu lliw pan fydd llygryddion amgylcheddol yn bresennol, er mwyn cael ffordd gyflym a hawdd o ddangos bod llygredd mewn dŵr.

Newidiwyd moch i greu anifeiliaid ag organau addas i'w trawsblannu mewn bodau dynol, gan fod prinder organau dynol i'w trawsblannu.

Newidiwyd moch hefyd i gynhyrchu llai o ffosfforws yn eu tail, gan fod hwnnw'n llygrydd amgylcheddol mawr.

Newidiwyd llygod, llygod mawr a defaid i greu anifeiliaid i fod yn 'fodel' o glefydau dynol neu o glefydau anifeiliaid, fel y gallwn ddysgu mwy am achosion salwch a helpu i ddatblygu triniaethau a ffyrdd o iacháu.

Newidiwyd cwningod, moch a mwncïod i greu anifeiliaid â chelloedd sy'n tywynnu yn y tywyllwch, i'w defnyddio mewn ymchwil neu eu harddangos fel 'celfyddyd fyw'.

Munud i feddwl

Wrth ddysgu am newid genetig mae'n bwysig ystyried y costau ar y naill law (niwed i anifeiliaid, effeithiau negyddol posibl ar fodau dynol ac anifeiliaid eraill) a'r manteision tybiedig i bobl, anifeiliaid eraill a'r amgylchedd ar y llaw arall.

Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf hwn: "Ni ddylid gadael newid genetig i wyddonwyr yn unig - gallai greu celfyddyd fawr."

Pa anifeiliaid a newidiwyd yn enetig, a faint ohonynt, sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer ymchwil ac arbrofion?

Mae angen trwydded (a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref) i gynhyrchu a defnyddio anifeiliaid a newidiwyd yn enetig mewn llawdriniaethau, ac i'w bridio hefyd. Ar hyn o bryd pan fydd anifeiliaid a newidiwyd yn enetig yn cael eu geni, cânt i gyd eu cofnodi fel triniaeth (felly hefyd unrhyw embryo NG ac unrhyw ffetws NG sydd fwy na hanner y ffordd trwy'r beichiogrwydd), hyd yn oed os na wneir unrhyw driniaeth reoledig arall arnynt.

Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref, yn 2007 defnyddiwyd anifeiliaid a newidiwyd yn enetig mewn 1.15 miliwn o driniaethau rheoledig; mae hynny'n 36 y cant o bob triniaeth yn ymwneud ag anifeiliaid. Roedd bron pob un o'r triniaethau hyn (99 y cant) yn defnyddio llygod a physgod. Mae'r holl ymchwil hwn yn achosi dioddefaint i anifeiliaid, peth ohono'n sylweddol.

Beth yw eich barn chi?

Llygod yw'r brif rywogaeth a newidir yn enetig ar gyfer ymchwil meddygol.

Pam, dybiwch chi, y cafodd llygod (a mamaliaid eraill) eu dewis fel y rhywogaethau mwyaf priodol i'w defnyddio mewn ymchwil - yn hytrach, er enghraifft, na rhywogaethau di-asgwrn-cefn?

Beth yw senotrawsblaniad, a sut y gall helpu bodau dynol?

Trawsblannu celloedd, meinwe neu organau byw o un rhywogaeth i un arall yw senotrawsblaniad. Mae'r dechnoleg yn cael ei datblygu oherwydd bod prinder organau dynol i'w trawsblannu, ac i ddarparu therapïau posibl ar gyfer cyflyrau meddygol fel y clefyd siwgr (diabetes) a chlefyd Parkinson.

Yn y cam ymchwil y mae'r dechnoleg o hyd, ac mae llawer o wahanol rywogaethau, gan gynnwys cŵn, geifr, moch, a babŵns, wedi cael eu defnyddio i geisio ei datblygu ymhellach. Mae'r holl ymchwil hwn yn achosi dioddefaint i anifeiliaid, peth ohono'n sylweddol.

Dysgu mwy

Beth fyddai pwynt gwneud moch sy'n edrych fel bodau dynol? Ydy hi'n wir bod gwyddonwyr yn gwneud hynny? Gallwch ddarganfod mwy am senotrawsblannu gan Awdurdod Rheoleiddio Senotrawsblannu Interim y Deyrnas Unedig (UKXIRA) trwy fynd i'r  ddolen hon.

Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Ni ddylid gadael newid genetig i wyddonwyr yn unig - gallai greu celfyddyd fawr."

Sut mae newid genetig yn effeithio ar anifeiliaid?

Mae'n bosibl i gyflwyno newid genetig arwain at eni anifeiliaid y mae perygl i'w lles. Mae nifer o wahanol effeithiau niweidiol yn bosibl, gan gynnwys:

  • annormaledd corfforol sy'n achosi poen yn uniongyrchol, neu sy'n peri dioddefaint oherwydd straen meddyliol o ganlyniad i fethu ymddwyn yn naturiol, er enghraifft methu symud yn rhwydd, o ganlyniad i ddiffygion yn y cymalau.
  • annormaledd corfforol sy'n achosi poen, dioddefaint neu ofid yn anuniongyrchol, er enghraifft annormaledd sy'n arwain at fwy o sensitifrwydd i s?n
  • effeithiau genetig sy'n arwain at glefydau neu symptomau clefydau, er enghraifft Clefyd Huntington
  • annormaleddau sy'n rhoi'r anifeiliaid mewn perygl, fel eu bod yn fwy tueddol o gael clefydau
  • annormaleddau meddyliol a all fod yn gorfforol amlwg neu beidio, er enghraifft ymddwyn yn ailadroddus, fel troelli'n ddi-baid.

A all newid genetig fod yn dda i anifeiliaid?

Mewn rhai achosion, nod newid genetig yw gwella lles anifeiliaid, er enghraifft:

  • gwella dealltwriaeth o brosesau clefydau a mecanweithiau prosesau clefydau a mecanweithiau ymwrthedd i glefydau mewn da byw (er enghraifft, mae gwartheg wedi eu haddasu i ryddhau gwrthfiotig yn eu llaeth, sy'n golygu eu bod yn gallu gwrthsefyll mastitis, yr haint i'w pyrsau/cadeiriau, yn well)
  • dileu genyn sy'n gysylltiedig â chlefyd niweidiol - fel y genyn Prp sy'n cyfrannu at glefyd y crafu mewn defaid.

Beth yw eich barn chi?

Mae technoleg genynnau'n codi llawer o gwestiynau moesegol.

  • Gellir gwneud newidiadau sylfaenol i enom anifail na fyddai'n bosibl, neu na fyddai'n digwydd yn rhwydd, ym myd natur. Oherwydd hynny, mae rhai pobl yn ystyried y dechneg yn 'annaturiol'. Pam mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yn pryderu yn ei gylch, yn eich barn chi?
  • Efallai fod anifeiliaid NG sy'n cael eu creu i fod yn dueddol o ddal clefydau, yn llythrennol yn 'cael eu geni i ddioddef'. Beth yw eich barn chi am hynny?
  • Fe allai fod canlyniadau nad ydynt wedi eu rhagweld i newid genetig, er enghraifft o ran lles yr anifeiliaid a newidiwyd, neu o ran iechyd dynol neu'r amgylchedd. Er enghraifft, gallai eogiaid NG, a addaswyd i dyfu ynghynt ac yn fwy nag eogiaid normal, drechu eogiaid gwyllt petaent yn dianc i'r gwyllt. Pam y byddai ots am hynny?
  • Er mai prin yw'r achosion hyd yma, mae modd creu anifeiliaid NG at ddiben anfeddygol, diben masnachol llwyr (er enghraifft, creu geifr i gynhyrchu protein sidan yn eu llaeth) neu er hwylustod (fel cathod anwes analergenig). Ymhle buasech chi'n tynnu'r llinell o ran defnyddio technoleg NG, a pham?

Nawr mae'n amser penderfynu - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Ni ddylid gadael newid genetig i wyddonwyr yn unig - gallai greu celfyddyd fawr."

Sut mae newid genetig yn effeithio ar anifeiliaid?

Mae'n bosibl i gyflwyno newid genetig arwain at eni anifeiliaid y mae perygl i'w lles. Mae nifer o wahanol effeithiau niweidiol yn bosibl, gan gynnwys:

  • annormaledd corfforol sy'n achosi poen yn uniongyrchol, neu sy'n peri dioddefaint oherwydd straen meddyliol o ganlyniad i fethu ymddwyn yn naturiol, er enghraifft methu symud yn rhwydd, o ganlyniad i ddiffygion yn y cymalau.
  • annormaledd corfforol sy'n achosi poen, dioddefaint neu ofid yn anuniongyrchol, er enghraifft annormaledd sy'n arwain at fwy o sensitifrwydd i sŵn
  • effeithiau genetig sy'n arwain at glefydau neu symptomau clefydau, er enghraifft Clefyd Huntington
  • annormaleddau sy'n rhoi'r anifeiliaid mewn perygl, fel eu bod yn fwy tueddol o gael clefydau
  • annormaleddau meddyliol a all fod yn gorfforol amlwg neu beidio, er enghraifft ymddwyn yn ailadroddus, fel troelli'n ddi-baid.

A all newid genetig fod yn dda i anifeiliaid? Mewn rhai achosion, nod newid genetig yw gwella lles anifeiliaid, er enghraifft:

  • gwella dealltwriaeth o brosesau clefydau a mecanweithiau prosesau clefydau a mecanweithiau ymwrthedd i glefydau mewn da byw (er enghraifft, mae gwartheg wedi eu haddasu i ryddhau gwrthfiotig yn eu llaeth, sy'n golygu eu bod yn gallu gwrthsefyll mastitis, yr haint i'w pyrsau/cadeiriau, yn well)
  • dileu genyn sy'n gysylltiedig â chlefyd niweidiol - fel y genyn Prp sy'n cyfrannu at glefyd y crafu mewn defaid.

Beth yw eich barn chi? Mae technoleg genynnau'n codi llawer o gwestiynau moesegol.

  • Gellir gwneud newidiadau sylfaenol i enom anifail na fyddai'n bosibl, neu na fyddai'n digwydd yn rhwydd, ym myd natur. Oherwydd hynny, mae rhai pobl yn ystyried y dechneg yn 'annaturiol'. Pam mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yn pryderu yn ei gylch, yn eich barn chi?
  • Efallai fod anifeiliaid NG sy'n cael eu creu i fod yn dueddol o ddal clefydau, yn llythrennol yn 'cael eu geni i ddioddef'. Beth yw eich barn chi am hynny?
  • Fe allai fod canlyniadau nad ydynt wedi eu rhagweld i newid genetig, er enghraifft o ran lles yr anifeiliaid a newidiwyd, neu o ran iechyd dynol neu'r amgylchedd. Er enghraifft, gallai eogiaid NG, a addaswyd i dyfu ynghynt ac yn fwy nag eogiaid normal, drechu eogiaid gwyllt petaent yn dianc i'r gwyllt. Pam y byddai ots am hynny?
  • Er mai prin yw'r achosion hyd yma, mae modd creu anifeiliaid NG at ddiben anfeddygol, diben masnachol llwyr (er enghraifft, creu geifr i gynhyrchu protein sidan yn eu llaeth) neu er hwylustod (fel cathod anwes analergenig). Ymhle buasech chi'n tynnu'r llinell o ran defnyddio technoleg NG, a pham?

Nawr mae'n amser penderfynu - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Ni ddylid gadael newid genetig i wyddonwyr yn unig - gallai greu celfyddyd fawr."

The RSPCA is a charity registered in England & Wales no. 219099