"Mae pawb eisiau gwneud ei orau dros anifeiliaid sydd mewn trafferth, ond mae rhai'n dweud y gallen ni fod yn gwastraffu llawer o amser ac arian ar yr hyn sy'n cael ei alw'n lles anifeiliaid. Mae llawer o olew'n cael ei golli ar hyd yr arfordir yma. Bob tro, ry'n ni'n gwario ffortiwn ar achub adar môr sydd wedi cael olew arnyn nhw, ac yna mae llawer ohonyn nhw'n marw beth bynnag ar ôl cael eu rhyddhau. Mae rhai'n dweud y byddai'n gwneud synnwyr peidio â cheisio achub yr adar hyn yn y lle cyntaf..."
Pam dylem ni boeni?
Mae'r môr o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig yn adnodd unigryw, y mae miloedd o bobl yn ei fwynhau. Mae'n cynnal miloedd o swyddi a diwydiannau. Ond mae'n gartref hefyd i amgylchedd morol eithriadol o amrywiol. Mae ein harfordiroedd yn cynnal poblogaethau bridio sawl rhywogaeth o adar môr sy'n rhyngwladol bwysig, gan gynnwys 68 y cant o fulfrain gwynion gogleddol y byd, 90 y cant o adar drycin Manaw'r byd a 60 y cant o'i sgiwennod mawr. Bob blwyddyn bydd bron i 8 miliwn o adar môr o 26 o rywogaethau'n dod i'n harfordiroedd i fridio. Mae llygredd yn y môr yn eu bygwth yn barhaus.
Sut mae'r RSPCA yn adfer adar ag olew arnynt?
Ar ôl dal adar ag olew arnynt, cânt eu rhoi mewn bocsys wedi'u leinio â llieiniau sychu a rhoddir fformwla ail-hydradu iddynt o ddŵr cynnes, bismwth (i helpu i leinio eu perfedd), siarcol (i dynnu'r olew oddi wrth y stumog a'i helpu ar ei ffordd trwy'r corff) a chaolin (i helpu i atgyweirio'r coluddion). Cânt eu harchwilio gan filfeddygon, a bydd tua dau y cant yn cael eu lladd mewn ffordd drugarog, gan nad oes gobaith iddynt oroesi. Cynigir corbenwaig i'r gweddill i'w bwyta, ac ar ôl 48 awr, bydd aelodau o staff yr RSPCA sydd wedi eu hyfforddi'n eu golchi â dŵr poeth a hylif golchi llestri. Dros y pythefnos nesaf, byddant yn cael eu harchwilio a'u bwydo'n gyson, ond bydd tua hanner ohonynt yn marw yn ystod y cyfnod hwn. Yna cânt eu golchi eto'n fanwl, o'u pig i flaen eu cynffon, byddant yn aros mewn ystafell gynnes dros nos, ac yna'n araf yn dod i arfer â phwll y tu allan. Yn ystod y drydedd wythnos a'r bedwaredd, cânt eu rhoi mewn pwll ymarfer, i ddod yn fwy ffit fesul tipyn a dysgu sut i blymio eto. Ar ôl rhyw fis, bydd tua 35 - 40 y cant o'r adar wedi goroesi a byddant yn barod i gael eu rhyddhau i'r gwyllt. Cânt eu modrwyo a'u monitro i weld faint sy'n goroesi.
Munud i feddwl
Petaem yn gadael adar ag olew arnynt ar draethau, beth fyddai'r effaith ar:
Er mor anodd yw hi iddynt oroesi, rydym yn dal i achub ac adfer adar ag olew arnynt. Pam rydych chi'n meddwl rydym ni, fel cymdeithas, yn dal i wneud hyn?
Wyddech chi?
Gall gostio dros £20,000 i un o ganolfannau anifeiliaid yr RSPCA lanhau ac adfer adar môr ag olew arnynt ar ôl trychineb fel y colli olew o MSC Napoli yn 2007. Mae eu bwydo'n gostus iawn - roedd cost dim ond y pysgod dros £6,000 rhwng mis Ionawr a mis Mai pan gymerodd Canolfan Bywyd Gwyllt yr RSPCA yn West Hatch rai o adar y Napoli. Roedd deunyddiau glanhau, llociau, cludyddion a phyllau yn costio hefyd, yn ogystal â bwyd i gynnal y gwirfoddolwyr. Roedd cyfanswm y gost yn £22,000.
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylem roi'r gorau i wario ar achub adar môr ag olew arnynt, gan mai marw wnân nhw beth bynnag."

Beth yw rhywogaethiaeth (speciesism)?
Term a fathwyd ym 1970 yw rhywogaethiaeth. Mae wedi'i seilio ar y syniad bod rhai pobl yn credu bod bodau dynol yn gynhenid o radd uwch nag anifeiliaid eraill, ac felly fod ganddynt hawliau neu freintiau nad oes gan anifeiliaid eraill. Weithiau gall rhywogaethiaeth ymwneud â'r ffordd y mae pobl yn gwneud i anifeiliaid ymddwyn, oherwydd eu bod yn credu eu bod yn well na nhw. Ac weithiau gall olygu bod pobl yn rhoi statws uwch i rai rhywogaethau o anifeiliaid nag i eraill, ac felly'n eu trin yn wahanol.
Beth yw eich barn chi?
A ddylem wneud penderfyniadau ynglŷn â pha anifeiliaid i'w helpu, ar sail yr hyn a deimlwn am yr anifail? A yw gwerth rhai anifeiliaid yn uwch na gwerth anifeiliaid eraill? Dilynwch y ddolen hon i weld mwy am foeseg rhywogaethiaeth.
Dysgu mwy
Beth yw polisi'r RSPCA am les bywyd gwyllt? Dilynwch y ddolen hon i gael gwybod.
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylem roi'r gorau i wario ar achub adar môr ag olew arnynt, gan mai marw wnân nhw beth bynnag."
Pam mae olew'n cael ei golli?
Er 1960, mae 410 o danceri olew wedi suddo, gan lygru moroedd y byd â 377,765 tunnell fetrig o olew. Mae trafnidiaeth ar y môr, gan gynnwys cludo olew, yn gyffredin yn nyfroedd arfordirol Ewrop, ac o ganlyniad mae perygl llygredd oherwydd colli olew i tua 30 o wladwriaethau morol. Cofnododd y diwydiant tanceri gynnydd yn nifer y digwyddiadau llygru yn 2007, gan nodi'r enghreifftiau hyn:
Beth ellir ei wneud?
Mae'r Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO) wedi mabwysiadu cynllun i gael gwared ar danceri un-gragen a chael llongau dwy-gragen yn eu lle, a ddylai leihau'r risg o golli olew i'r môr yn sylweddol.
Dysgu mwy
Chwiliwch i weld beth mae'r UE yn ei wneud am lygredd olew yn ein moroedd yma.
A chwiliwch i weld beth mae'r diwydiant yn ei wneud fel bod llai o olew'n cael ei golli yma.
A allwch chi ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod dirwyon yn cael eu defnyddio i helpu gyda chostau adfer bywyd gwyllt?
Beth yw eich barn chi?
Mae'n well gwario arian ar:
Nawr mae'n amser penderfynu - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylem roi'r gorau i wario ar achub adar môr ag olew arnynt, gan mai marw wnân nhw beth bynnag."