"I don't understand this thing some people have about pedigree dogs. I've heard some of the dogs really suffer because of the way they've been bred, so I think people should just stop buying pedigrees."
Beth yw ci o dras? Gellir dosbarthu cŵn fel rhai 'o dras', 'o frîd pur', 'croesfrid' neu 'gymysgfrid'. I fod yn gi o dras, rhaid i ddau riant y ci fod o'r un brîd yn union. Rhaid i'r ci hefyd fod wedi'i gofrestru â'r UK Kennel Club neu sefydliad cyfatebol a bod â chofnod o'i dras dros nifer benodol o genedlaethau. Mae datblygu cŵn o dras yn enghraifft o fridio detholus. Mae hynny'n golygu:
Pam mae gennym gŵn o dras? Cafodd y rhan fwyaf o fridiau o gŵn eu dethol yn wreiddiol i wneud pethau arbennig i bobl, fel hela neu warchod eiddo neu stoc. Pan oedd pobl yn dethol pa gŵn i fridio ohonynt, roeddent yn dewis y rhai oedd yn gweddu orau i'r gwaith yr oeddent am iddynt ei wneud, gan roi eu ffitrwydd, eu gallu a'u heffeithiolrwydd yn gyntaf. Ond pan ddaeth dangos cŵn yn boblogaidd, dechreuodd bridio detholus newid. Dechreuwyd dethol cŵn i bwysleisio eu gwahanol ffurfiau corfforol fel clustiau hir llipa, coesau byr, croen mewn plygion neu wynebau fflat. Dechreuwyd cydnabod bridiau penodol, a dechreuodd cystadlaethau. Cynhaliwyd y sioe gŵn gyntaf swyddogol ym 1859 ac mae'r hobi wedi parhau i dyfu hyd heddiw. Mae'r UK Kennel Club bellach yn cydnabod dros 200 o fridiau a thros y byd i gyd cydnabyddir dros 400 ohonynt. Beth yw swyddogaeth cŵn o dras heddiw? Er mwyn cymryd rhan mewn sioeau bridiau confensiynol, rhaid i gŵn:
Ar gyfer pob brîd o gi y mae'n ei gydnabod, mae gan yr UK Kennel Club safon brîd ysgrifenedig sy'n disgrifio'n fanwl beth yn ôl y Kennel Club yw nodweddion corfforol delfrydol y brîd hwnnw. Mewn sioeau cŵn ffurfiol bydd y beirniad yn dewis enillwyr trwy gymharu pob ci â'r safon ar gyfer ei frîd, i gael hyd i'r cŵn sy'n cyfateb agosaf i'r safon. Er mai anifeiliaid anwes yw'r rhan fwyaf o gŵn o dras ac na fyddant byth yn ymddangos mewn sioe, caiff llawer eu bridio gan fridwyr sy'n gobeithio cynhyrchu anifeiliaid o ansawdd sioe. Maent wedyn yn gwerthu’r cŵn sydd ganddynt dros ben fel anifeiliaid anwes. Beth yw'r broblem? Dros y 130 o flynyddoedd diwethaf, mae bridio cŵn o dras wedi canolbwyntio ar ymddangosiad cŵn, ac ni roddwyd digon o sylw i'w hiechyd, eu lles a'u natur. Arweiniodd hynny at ddwy broblem wahanol, ond mae cysylltiad rhwng y ddwy.
Wyddech chi? Nid sioeau brîd swyddogol yw pob sioe gŵn - mae nifer yn sioeau am hwyl yn unig. Mae rhai ohonynt yn barnu anifeiliaid ar agweddau ar wahân i ymddangosiad, ac mae'r RSPCA yn credu y dylai sioeau cŵn fodoli i farnu cŵn ar eu hiechyd, eu lles a'u natur yn hytrach na'u hymddangosiad. Nodweddion corfforol eithafol Yn aml, mae tueddiadau wrth fridio bridiau penodol wedi arwain at bwysleisio nodweddion sy'n ddymunol ym marn rhai pobl. Er enghraifft, detholwyd rhai bridiau i fod â choesau byrion, a bridiau eraill i fod â chlustiau llipa. Mae'r nodweddion corfforol hyn yn gwneud bridiau cŵn yn wahanol ac wedi arwain at yr amrywiaeth anhygoel a welwn heddiw. Beth yw'r broblem? Dros y blynyddoedd, pwysleisiwyd nodweddion corfforol mewn rhai achosion i'r fath raddau fel eu bod yn cyfyngu'n ddifrifol ar ansawdd bywyd cŵn, a gallant achosi poen a dioddefaint. Mewn rhai bridiau o gŵn, efallai fod y nodweddion bellach yn ymddangos yn arferol – ond nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn broblem. Dangosodd astudiaeth ddiweddar fod gan bob un o'r 50 brîd mwyaf poblogaidd ryw agwedd ar eu corff a all beri dioddefaint. Mae'r problemau'n amrywio o fod yn niwsans i fygwth bywyd, neu i beri bod angen llawdriniaeth beryglus. Rhai enghreifftiau Mae llawer enghraifft o nodweddion corfforol eithafol a all arwain yn uniongyrchol at ansawdd bywyd gwaeth. Rhestrir nifer fechan isod, ond nid y rhain yw'r unig enghreifftiau na'r enghreifftiau gwaethaf.
Mae nodweddion eithafol yn fwy cyffredin mewn cŵn o dras sy'n cael eu bridio i'w harddangos, ond gallant ddigwydd mewn croesfridiau hefyd. Dysgu mwy Dilynwch y ddolen hon ac edrychwch ar dudalen 11 o'r adroddiad hwn i ddarganfod rhagor o enghreifftiau o nodweddion eithafol a all niweidio ansawdd bywyd yn uniongyrchol. Wyddech chi? Mae cŵn yn teimlo poen mewn ffordd debyg iawn i ni, ac os bydd rhywbeth yn peri poen neu anghysur i chi, mae'n debygol o wneud yr un peth i gi. Munud i feddwl Ydych chi'n meddwl bod y problemau lles sy'n gysylltiedig â rhai nodweddion eithafol yn hysbys i lawer o bobl? Pam mae pobl yn dal i fridio'r cŵn hyn os oes tystiolaeth bod ansawdd bywyd y cŵn yn waeth a'u bod yn dioddef poen? Nawr mae'n amser rhoi eich barn – cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Mae cŵn o dras yn dioddef, felly dylai pobl roi'r gorau i'w prynu."
Bridio ar gyfer priodoleddau eraill Ceisiwch ddarganfod cymaint ag y gallwch am gŵn defaid. Ar gyfer pa briodoleddau y cânt eu bridio? A allwch chi gael hyd i enghreifftiau eraill o gŵn sy'n cael eu bridio am briodoleddau ar wahân i'w hymddangosiad? Anhwylderau a etifeddir Gall cŵn ddioddef o nifer fawr o anhwylderau, a gall llawer o'r rhain gael eu hetifeddu. Oherwydd rheolau bridio ac arddangos cŵn o dras, mae cŵn o wahanol fridiau wedi cael eu bridio ar wahân ers blynyddoedd lawer. O ganlyniad, maent nid yn unig yn edrych yn wahanol ond mae gwahanol debygolrwydd hefyd y byddant yn datblygu gwahanol glefydau. Mae ymchwil yn dangos bod pob brîd o gi sydd wedi ei astudio'n helaeth yn dueddol o ddal amrywiaeth o glefydau, a bod lefelau uchel o glefydau fel canser a dallineb mewn rhai, er enghraifft. Pam mae hynny'n broblem mewn cŵn o dras? Mae bridio detholus ar gyfer ymddangosiad wedi lleihau amrywiaeth enetig; ac felly mae gwahanol fridiau'n fwy tebygol o ddatblygu clefydau penodol. Mae hyn, ynghyd â diffyg sylw i wella iechyd, natur a lles cŵn, wedi gwneud rhai bridiau'n arbennig o dueddol o ddal pob math o anhwylderau etifeddol, y mae llawer ohonynt yn boenus iawn neu'n peri llesgedd cronig. Dechreuodd y rhan fwyaf o fridiau cŵn o nifer fechan o gŵn unigol. Cafodd cŵn a oedd â nodweddion y credai pobl eu bod yn ddymunol eu bridio gyda'i gilydd i gynyddu'r siawns y byddai'r nodweddion hynny gan eu cŵn bach hefyd. Er mwyn cynnal a gwella'r nodweddion 'dymunol' hyn, nid yw rheolau bridio ac arddangos cŵn o dras fel rheol yn caniatáu i gŵn o un brîd gael eu bridio gyda chŵn o frîd arall (allgroesi). Mae hynny'n golygu bod pob brîd o gŵn yn gronfa gaeedig o enynnau. Gan fod pob dau gi yn y rhan fwyaf o fridiau neu ym mhob brîd yn perthyn i'w gilydd i ryw raddau ar y lefel enetig, mae unrhyw anhwylderau etifeddol sydd ynddynt yn fwy tebygol o gael eu trosglwyddo i'w hepil. Er bod llawer o fridwyr erbyn hyn yn deall yr angen i osgoi mewnfridio perthnasau agos iawn, yn aml nid ydynt yn edrych yn ddigon pell yn ôl am hynafiaid sy'n gyffredin i ddau gi, ac felly mae'r broblem yn parhau. Ac mae rhai bridwyr yn dal i fewnfridio neu i ddethol partneriaid bridio o is-boblogaeth o'r brîd cyfan wrth iddynt geisio cynhyrchu nodweddion penodol a bennwyd yn safonau'r brîd. At hynny, mae gorfridio pencampwyr poblogaidd iawn yn golygu y gall unrhyw glefydau y maent yn eu cario gael eu dosbarthu'n eang yn y brîd ac yn gyflym iawn. Rhai enghreifftiau Mae rhai clefydau etifeddol yn brin iawn neu ddim ond yn achosi mymryn o ddioddef, ond mae llawer o gyflyrau etifeddol sy'n eithriadol o boenus neu sy'n bygwth bywydau. Rhestrir nifer fechan isod o enghreifftiau sy'n arbennig o gyffredin mewn rhai bridiau, ond nid y rhain yw'r gwaethaf na'r unig rai.
At ei gilydd, bydd cŵn croesfrid yn byw'n hirach na chŵn o frîd pur. Ond mae'n bwysig cofio bod llawer o glefydau'n digwydd mewn croesfridiau hefyd, er eu bod yn brinnach. Wyddech chi? Dangosodd astudiaeth ddiweddar i'r English springer spaniel mwyaf cynhyrchiol a gofrestrwyd â'r Kennel Club er 1970 genhedlu 2,538 o gŵn bach. Pa mor fawr yw'r broblem? Mae'n anodd asesu pa mor fawr yw'r problemau, oherwydd diffyg cadw cofnodion, diffyg tryloywder yn y byd bridio ac arddangos, a diffyg digon o ymchwil. Ar hyn o bryd nid yw'r data ar glefydau'n cael eu casglu'n drefnus, a chymharol ychydig o ymchwil a fu ar fridiau unigol neu anhwylderau arbennig yn y Deyrnas Unedig. Ond cydnabuwyd bod y problemau lles cysylltiedig â bridio cŵn o dras yn rhai difrifol oherwydd:
Cost bosibl bod yn berchennog ci o dras Nid yw rhai perchenogion cŵn yn sylweddoli beth allai fod o'u blaenau (o safbwynt iechyd a lles yn y dyfodol) gyda rhai bridiau. Gallant orfod talu premiymau yswiriant anifeiliaid anwes uchel a/neu lawer o filiau milfeddygol pan fydd eu hanifail anwes annwyl yn mynd yn sâl. Mae tystiolaeth bod biliau milfeddygol cŵn croesfrid yn llai na rhai cŵn o dras yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl data a gasglwyd gan Churchill Insurance, gall biliau milfeddygol ci croesfrid cyfartalog fod hyd at bedair gwaith yn llai na biliau'r cŵn o dras mwyaf costus. Wyddech chi? Ar hyn o bryd, mae un gronfa ddata ar lein yn rhestru tua 500 o anhwylderau etifeddol mewn cŵn. Mae un arall yn rhestru mwy na hynny hyd yn oed. Dysgu mwy Dilynwch y ddolen hon ac edrychwch ar dudalennau 19-24 o'r adroddiad hwn i ddysgu mwy am anhwylderau etifeddol. Nawr mae'n amser rhoi eich barn – cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Mae cŵn o dras yn dioddef, felly dylai pobl roi'r gorau i'w prynu."
Cŵn y mae angen cartrefi arnynt Yn y Deyrnas Unedig, mae dros gant o ganolfannau ailgartrefu sy'n cael eu rhedeg gan yr elusennau mwyaf a mwyaf adnabyddus. Mae'r rhain yn cynnwys yr RSPCA, yr Ymddiriedolaeth Cŵn, y Groes Las, Cartref Cŵn a Chathod Battersea, Cymdeithas Ulster er Rhwystro Creulondeb i Anifeiliaid (USPCA) a Chymdeithas yr Alban er Rhwystro Creulondeb i Anifeiliaid (SSPCA). Mae llawer rhagor o ganolfannau ailgartrefu sy'n cael eu rhedeg gan gyrff llai. Maent yn ailgartrefu pob math o gi a esgeuluswyd - mwngreliaid, cŵn o dras a chŵn croesfrid. Wyddech chi? Nid oes ffigurau swyddogol i ddangos faint o gŵn a gaiff eu hachub a'u hailgartrefu bob blwyddyn, ond yn 2008 ail-gartrefodd yr RSPCA 15,872, yr Ymddiriedolaeth Cŵn dros 14,000, ac mae elusennau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg.