"Waw - mewn rhai llefydd maen nhw'n siarad am ddod ag eirth a bleiddiaid a phethau felly'n ôl. Dw i'n meddwl y dylen ni wneud hynny yma - basai'n hollol wych!"
Ydy hyn yn wir?
Mae rhai pobl yn dweud y byddai ailgyflwyno rhywogaethau a oedd yn arfer byw yn y Deyrnas Unedig yn adfer cydbwysedd ecolegol y gwledydd hyn wedi canrifoedd o ymyrraeth gan fodau dynol. Maent yn dweud y byddai ysglyfaethwyr, fel bleiddiaid a lyncsod, yn rheoli poblogaethau ceirw ac yn hwb i dwristiaeth.
Pa anifeiliaid oedd yn arfer byw yma?
Mae'r rhain i gyd yn anifeiliaid y mae rhai pobl yn dadlau y dylid dod â nhw yn ôl i'r Deyrnas Unedig.
Beth yw eich barn chi?
Beth dybiwch chi yw prif fanteision ac anfanteision dod ag anifeiliaid a fu unwaith yn byw yn y Deyrnas Unedig yn ôl?
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylen nhw ddod ag eirth gwyllt a bleiddiaid yn ôl - basai hynny'n wych!"
Ofni'r canlyniadau
Buasai ailgyflwyno anifeiliaid gwyllt cigysol, yn enwedig rhai mawr, yn codi ofn ar lawer o bobl. Mae rhai ffermwyr yn poeni y byddai perygl i'w da byw. Mae pobl eraill yn dweud na ddylem ddweud wrth wledydd eraill sut i ddiogelu eu rhywogaethau mawr ysglyfaethus os nad ydym yn barod i ailgyflwyno ein rhai ni ein hunain a dysgu sut i fyw gyda nhw.
Dod â'r afanc yn ôl
Yr afanc yw cnofil mwyaf Ewrop ac mae'n pwyso tua 18 i 20kg. Mae'n anifail rhannol ddyfrol, ac mae ganddo gynffon fawr fflat, traed ôl gweog a ffwr gwrth-ddŵr. Mae ganddo bedwar dant blaen mawr, sy'n tyfu gydol ei fywyd ac yn ddigon cryf i gnoi trwy foncyffion coed. Bu afancod farw o'r tir yn y Deyrnas Unedig a thrwy rannau helaeth o Ewrop oherwydd yr hela a fu arnynt am eu ffwr, eu cig a'r castorewm y maent yn ei ysgarthu. Roedd gwerth mawr ar y sylwedd hwnnw oherwydd ei briodweddau meddygol honedig. Cyfrannodd colli cynefin hefyd at eu diflaniad.
Bellach mae'r afancod cyntaf i fyw yn yr Alban am dros 400 mlynedd wedi eu rhyddhau mewn arbrawf pum mlynedd i ailgyflwyno'r rhywogaeth dan reolaeth. Rhyddhawyd y teuluoedd o afancod i Goedwig Knapdale ym mis Mai 2009, ac maent yn cael eu monitro'n wyddonol i weld pa effaith a gânt ar yr amgylchedd lleol, a sut y byddant yn ffynnu. Bydd yr arbrawf yn helpu i benderfynu beth fydd dyfodol yr afanc yn yr Alban.
Dysgu mwy
Scottish Natural Heritage sy'n cydgysylltu ailgyflwyno afancod dan reolaeth yn yr Alban. Gallwch ddysgu mwy am y ffordd y mae'n cael ei reoli a'i fonitro trwy ddilyn y dolenni canlynol:
Gallwch weld beth yw barn rhai o wrthwynebwyr y cynllun trwy fynd i'r ddolen hon a'r ddolen hon.
Beth yw eich barn chi?
Beth ddylai gael ei ystyried cyn penderfynu ailgyflwyno anifail a ddiflannodd o'r wlad hon 400 o flynyddoedd yn ôl?
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylen nhw ddod ag eirth gwyllt a bleiddiaid yn ôl - basai hynny'n wych!"
Ystyried yr effaith
Mae rhyddhau neu ailgyflwyno unrhyw rywogaeth i'r gwyllt yn dipyn o fenter, a allai gael effeithiau hirdymor arwyddocaol ar fioamrywiaeth a buddiannau economaidd-gymdeithasol, yn ôl Natural England. Ond mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE yn gofyn i aelod wladwriaethau ystyried a ddylid ailgyflwyno rhai rhywogaethau a fu'n gynhenid i'w tiriogaeth, lle gallai hynny helpu i'w diogelu.
Dysgu mwy
Dysgwch am enghreifftiau o gyflwyno rhywogaethau heb reolaeth i'r Deyrnas Unedig, fel y wiwer lwyd, minc America a'r cimwch afon arwyddol, a'r effaith a gawsant ar les anifeiliaid a bioamrywiaeth, trwy ddilyn y ddolen hon.
Gallwch ddarganfod pa fesurau diogelu y mae Natural England yn eu defnyddio i reoli rhywogaethau yma.
Gallwch ddarganfod sut y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn trafod ailgyflwyno llyfant y twyni yma .
Beth yw eich barn chi?
Ym mha ffyrdd y gallai'r anifeiliaid a fyddai'n cael eu hailgyflwyno ddioddef? A sut y gallai'r anifeiliaid sydd eisoes yma ddioddef? Beth fyddai modd ei wneud, yn eich barn chi, i leihau risg dioddef?
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylen nhw ddod ag eirth gwyllt a bleiddiaid yn ôl - basai hynny'n wych!"
A gafodd hebogiaid tramor eu hailgyflwyno yn y Deyrnas Unedig?
Diflannodd hebogiaid tramor bron yn llwyr o'r Deyrnas Unedig yn ystod y 1950au, i raddau helaeth o ganlyniad i ddefnyddio cemegolion amaethyddol gwenwynig fel DDT. Er pan gyflwynwyd gwaharddiad Ewropeaidd ar blaladdwyr organoclorin parhaus, mae poblogaethau'r aderyn yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu, ac mae 20 y cant o'r boblogaeth Ewropeaidd yn bridio yma. Bu'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a mudiadau eraill yn darparu a silffoedd a blychau nythu i helpu hebogiaid tramor i ymsefydlu unwaith eto yn eu hen gynefinoedd yn ne a de-ddwyrain Lloegr.
A yw hebogiaid tramor yn bwyta da byw?
Bydd hebogiaid tramor yn bwydo ar adar yn bennaf, gan eu dal wrth hedfan. Colomennod gwyllt yw eu hoff ysglyfaeth, ond byddant weithiau'n cipio mamaliaid, ac yn achlysurol amffibiaid, madfallod a phryfed mawr.
Beth yw eich barn chi?
A yw cadwraeth hebogiaid tramor yn enghraifft o ailgyflwyno rhywogaeth frodorol? A ydynt yn risg i anifeiliaid fferm? A fyddai ailgyflwyno eirth, bleiddiaid neu lyncsod yn golygu bod mwy ynteu lai o fygythiad i anifeiliaid fferm?
Nawr mae'n amser penderfynu - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylen nhw ddod ag eirth gwyllt a bleiddiaid yn ôl - basai hynny'n wych!"