"Mae asthma ar fy mab bychan. Rydw i mor ddiolchgar am y cyffuriau diweddaraf - hebddyn nhw, basai'n llawer gwaeth. Dw i'n meddwl y dylen ni ddal i ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil a phrofion, fel y gallwn ddal ati'n gyson i wella cyffuriau i bobl."
Sut caiff anifeiliaid eu defnyddio mewn ymchwil ac arbrofion?
Bydd gwyddonwyr yn datblygu cyffuriau a all helpu i wella a rhwystro clefydau. Caiff y cyffuriau hyn eu profi'n helaeth cyn y gall pobl eu defnyddio. Mae llawer o faterion yn ymwneud â moeseg profi cyffuriau, gan gynnwys defnyddio anifeiliaid.
Defnyddir anifeiliaid i wneud llawer o wahanol bethau, gan gynnwys:
Mae'r RSPCA yn gwrthwynebu pob arbrawf neu driniaeth sy'n achosi poen, dioddefaint, gofid neu niwed parhaol. Nod yr RSPCA yn y pen draw yw disodli arbrofion ar anifeiliaid â ffyrdd eraill trugarog.
Pam rydym ni'n defnyddio anifeiliaid mewn ymchwil ac arbrofion?
Rhaid i bob sylwedd newydd a all ddod i gysylltiad â bodau dynol, anifeiliaid neu'r amgylchedd gael ei brofi i weld a yw'n 'ddiogel'. Mae hyn yn cynnwys pob meddyginiaeth a brechlyn ar gyfer bodau dynol. Mae llawer o gyrff rheoleiddio sy'n pennu sut i gynnal profion diogelwch, ac mae llawer o'u gofynion profi cyfredol yn cynnwys defnyddio anifeiliaid.
Caiff arbrofi ar anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig ei reoli gan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. Dim ond ar ôl cael trwydded gan y Swyddfa Gartref y gellir cynnal triniaethau neu weithdrefnau. O dan y Ddeddf, rhaid mesur manteision tebygol y gwaith arfaethedig yn erbyn y costau tebygol i'r anifeiliaid dan sylw, cyn rhoi trwydded. Mae angen trwyddedau ar gyfer labordai sy'n bridio neu'n defnyddio anifeiliaid ar gyfer ymchwil ac arbrofion, ar gyfer prosiectau ymchwil ac ar gyfer yr unigolion sy'n cynnal arbrofion.
Dysgu mwy
Dysgwch am y diwygiadau y cytunwyd arnynt i Gyfarwyddeb Ewropeaidd 86/609, sy'n rheoli defnyddio anifeiliaid mewn ymchwil ac arbrofion, trwy ddilyn y ddolen hon.
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf hwn: "Dylem ddal i ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil a phrofion, fel y gallwn wella cyffuriau i bobl."
A yw anifeiliaid yn dioddef mewn ymchwil ac arbrofion?
Bydd anifeiliaid sy'n rhan o arbrofion ac ymchwil yn dioddef mewn amryfal ffyrdd:
Yn ystod arbrofion ac ymchwil ar anifeiliaid, mae natur a lefel dioddefaint yr anifeiliaid yn dibynnu ar y math o ymchwil. Caiff ei ddosbarthu gan y Swyddfa Gartref fel 'ysgafn', 'cymedrol' neu 'sylweddol'. Yn achos y rhan fwyaf o driniaethau arbrofol, fel rheol mae modd gwneud rhywbeth i liniaru peth o'r dioddefaint, er enghraifft trwy roi anesthesia a lladd y boen.
A ydym yn defnyddio anifeiliaid ar gyfer pethau ar wahân i ymchwil meddygol?
Nid dim ond ar gyfer ymchwil ac arbrofion meddygol y defnyddir anifeiliaid. Cânt eu defnyddio hefyd i brofi a fydd cynhyrchion anfeddygol newydd a ddefnyddir mewn diwydiant, amaethyddiaeth neu mewn cartrefi yn cael effaith niweidiol pan ddeuant i gysylltiad â phobl, anifeiliaid a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys cemegolion fel ychwanegion bwyd a phlaladdwyr, yn ogystal â chynhwysion paent, plastigion a chynnyrch glanhau tai.
Mae'r RSPCA yn gwrthwynebu defnyddio anifeiliaid i brofi sylweddau nad ydynt yn hanfodol, fel colur a deunydd ymolchi, cynhyrchion anfeddygol fel cemegolion gardd, cynhyrchion DIY, phlaladdwyr, cynhyrchion ar gyfer y cartref ac ychwanegion bwyd. Mae'r Gymdeithas yn credu y dylai fod rhyw ffordd o holi a oes angen y cynnyrch yn ogystal â'r prawf.
Mae profi cynhyrchion a/neu gynhwysion cosmetig ar anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig wedi ei wahardd er 1997.
Er hynny, defnyddir llygod i brofi'r gwenwyn botwlinwm a ddefnyddir yn y driniaeth gosmetig sy'n tynnu crychau a llinellau gwgu o'r croen dros dro, ac mewn dognau bychain i drin rhai cyflyrau poenus. Profir pob swp i weld pa mor gryf yw a maint y dogn. Chwistrellir gwahanol ddognau i abdomen llygod i weld a fyddant yn cael eu parlysu. Bydd rhai o'r llygod yn mygu ac yn marw oherwydd bod y cyhyrau a ddefnyddir i anadlu'n cael eu parlysu.
Ai dim ond llygod a llygod mawr a ddefnyddir mewn ymchwil ac arbrofion?
Bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi ystadegau am y nifer o anifeiliaid labordy a ddefnyddir bob blwyddyn. Yn 2008, gwnaed 3.7 miliwn o driniaethau gwyddonol ar anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio tua 3,583,223 o anifeiliaid. Llygod (2,407,982) a llygod mawr (347,962) oedd y rhan fwyaf ohonynt. Ond defnyddiwyd llawer rhywogaeth arall, gan gynnwys:
Cynyddodd y nifer o driniaethau a oedd yn defnyddio anifeiliaid 14 y cant yn 2007. Dyna'r seithfed cynnydd blynyddol olynol.
Ni cheir defnyddio epaod fel tsimpansïaid mewn ymchwil yn y Deyrnas Unedig. Y rheswm am hyn yw eu bod mor debyg i fodau dynol fel eu bod yn debygol o ddioddef mwy yn y labordy nag anifeiliaid eraill.
Defnyddir primatiaid fel macacos yn eu lle, ac mae llawer o bobl yn anhapus ynglŷn â hynny, gan y credir eu bod yn teimlo emosiynau negyddol fel pryder, ofn, diflastod a straen meddyliol - yn union fel pobl.
Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid profi cynhwysion newydd cynhyrchion i'w defnyddio mewn diwydiant, amaethyddiaeth neu yn y cartref, ar anifeiliaid yn cynnwys cnofil (llygoden fawr neu lygoden) ac un rhywogaeth arall nad yw'n gnofil - cŵn yn aml iawn.
Rhaid profi unrhyw gyffur newydd ar o leiaf ddwy rywogaeth wahanol o famaliaid byw, a rhaid i un ohonynt fod yn rhywogaeth fawr nad yw'n gnofil.
O ble y daw'r anifeiliaid?
Caiff llawer o'r anifeiliaid a ddefnyddir mewn arbrofion eu bridio i'w defnyddio mewn ymchwil, ond mae'r RSPCA yn pryderu am faint y mae pob anifail unigol yn ei ddioddef, yn ogystal â'r nifer o anifeiliaid a ddefnyddir.
Yn aml caiff mwy o anifeiliaid labordy eu bridio nag y mae eu hangen ar gyfer arbrofion, sy'n arwain at wastraffu bywydau'n ddiangen. Bydd gorfridio efallai fel bod anifeiliaid o ryw neu oedran arbennig ar gael ar fyrder.
Munud i feddwl
Mae anifeiliaid yn gallu teimlo a dirnad. Mae hynny'n golygu y gallant ddioddef poen, gofid, ofn a phryder. Pan nad yw'n amlwg a yw anifail yn dioddef, neu y gallai ddioddef, cred yr RSPCA y dylem dybio ei fod yn dioddef, neu y gallai ddioddef. Beth yw eich barn chi am hyn?
Dysgu mwy
Dysgwch sawl anifail a ddefnyddir i brofi pob swp o frechlynnau tetanws, trwy ddilyn y ddolen hon.
Dysgwch ragor am y mathau o arbrofion a'r dioddefaint a achosant, trwy fynd i'r ddolen hon a'r ddolen hon.
Munud i feddwl
Ydych chi'n meddwl ei bod yn dderbyniol datblygu lliwiau paent newydd os yw'r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid profi'r cynhwysion newydd ar anifeiliaid, a bod yr arbrofion yn gwneud i'r anifeiliaid ddioddef?
Efallai y buasai rhai pobl yn dweud, os yw hi'n anghywir brifo pobl, sut y gall fod yn iawn brifo anifeiliaid? Beth yw eich barn chi?
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylem ddal i ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil a phrofion, fel y gallwn wella cyffuriau i bobl."
Sut rydym ni'n elwa ar ddefnyddio anifeiliaid mewn arbrofion?
Defnyddir arbrofion ar anifeiliaid i astudio a darganfod gwellhad i gyflyrau meddygol difrifol, ac mae hynny yn y pen draw yn helpu pobl.
Primatiaid a ddefnyddir yn bennaf mewn arbrofion i brofi diogelwch ac effeithiolrwydd meddyginiaethau ar gyfer bodau dynol. Defnyddir rhai hefyd i brofi effeithiolrwydd brechlynnau newydd ar gyfer HIV/AIDS, malaria a thwbercwlosis. Weithiau mae hynny'n golygu eu heintio â'r clefydau y bwriedir i'r brechlynnau eu rhwystro, a gall hynny wneud iddynt ddioddef.
Wyddech chi?
Defnyddir anifeiliaid mewn arbrofion nid yn unig i gael hyd i ffyrdd o wella clefydau sy'n digwydd yn naturiol, ond hefyd i ddeall a mynd i'r afael â chyflyrau a achosir gan ffordd pobl o fyw, fel gordewdra a chaethiwed i gyffuriau hamdden.
Mae caethiwed i gocên yn broblem gymdeithasol sylweddol. Gall pobl sy'n gaeth ddioddef problemau meddygol difrifol, gan gynnwys problemau iechyd meddwl. Defnyddir llygod mawr yn aml i astudio caethiwed. Cânt eu cadw ar eu pennau eu hunain mewn cewyll a gosodir tiwb yn un o'u gwythiennau a'i adael yno. Gallant roi dogn o'r cyffur iddynt eu hunain trwy wthio lifer. Byddant yn mynd yn gaeth i'r cyffur, a byddant yn ei gymryd hyd yn oed os cânt eu cosbi am ei gymryd trwy roi sioc drydanol iddynt. Byddant yn dewis y cocên yn hytrach na bwyd a dŵr. Gallant gymryd gorddos ohono os na chânt eu rhwystro, ac weithiau byddant yn eu lladd eu hunain.
Sut ofal mae anifeiliaid ymchwil yn ei gael?
Mae Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 yn dweud bod yn rhaid i un neu ragor o bobl fod â chyfrifoldeb cyffredinol am ofalu o ddydd i ddydd am anifeiliaid ymchwil, a bod yn rhaid penodi milfeddyg i fonitro eu hiechyd a'u lles.
Cedwir llawer o anifeiliaid labordy mewn cewyll nad ydynt yn bodloni eu hanghenion. Mae'r cewyll yn aml yn fach ac anniddorol, ac yn aml cedwir yr anifeiliaid ar eu pennau eu hunain, fel na allant ymddwyn yn naturiol na chymdeithasu ag anifeiliaid eraill.
Mae'r dioddefaint a achosir gan arbrofion yn poeni'r RSPCA, ond gall cludiant, cewyll, hwsmonaeth a gofal annigonol hefyd beri cryn ofid i anifeiliaid. Cyhyd ag y defnyddir anifeiliaid mewn ymchwil ac arbrofion, cred yr RSPCA fod yn rhaid cymryd pob cam posibl i leihau dioddefaint a gwella eu lles.
Dysgu mwy
Mae'r RSPCA yn gweithio gyda llawer o fudiadau i wella lles anifeiliaid a ddefnyddir mewn ymchwil ac arbrofion. Cewch weld beth mae'n ei ddweud am y niferoedd o anifeiliaid a ddefnyddir trwy fynd i'r ddolen hon.
Munud i feddwl
Sut mae'r ffordd y bydd pobl yn defnyddio gwenwyn botwlinwm - naill ai am resymau meddygol neu am resymau cosmetig - yn effeithio ar eich teimladau ynglŷn â'r ffaith bod anifeiliaid yn dioddef ac yn marw pan brofir ef?
Sut rydych chi'n teimlo ynglŷn â defnyddio anifeiliaid i ymchwilio i gyflyrau sy'n aml yn ganlyniad i ffordd pobl o fyw, fel caethiwed i gocên a gordewdra, o gymharu â chlefydau heintus, fel tetanws a thwbercwlosis?
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylem ddal i ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil a phrofion, fel y gallwn wella cyffuriau i bobl."
A yw defnyddio anifeiliaid mewn ymchwil ac arbrofion yn gweithio?
Mae galw cryf ac eglur am feddyginiaethau a therapïau i bobl. Mae terfynau cyfreithiol a moesegol i'r arbrofion y gellir eu gwneud ar fodau dynol. Defnyddir arbrofion ar anifeiliaid wrth ddatblygu meddyginiaethau newydd ar gyfer pobl, i weld a allai'r cyffur newydd fod â sgil-effeithiau mewn pobl.
Un cwestiwn llosg yw a yw anifeiliaid mewn gwirionedd yn fodelau da mewn ymchwil ac arbrofion ar gyffuriau ar gyfer pobl. A yw'r arbrofion yn ddilys yn wyddonol, ac a gewch chi'r un sgil-effeithiau os yw'r rhywogaethau'n wahanol? Nid yw'r hyn sy'n gweithio mewn anifeiliaid bob amser yn gweithio mewn pobl.
Y Tri Nod
Dyma a ddywed Cyngor Biofoeseg Nuffield: Rhaid anelu yn y pen draw at fyd lle gellid sicrhau manteision pwysig ymchwil o'r fath heb achosi'r boen, y dioddefaint, y gofid, y niwed parhaol na'r marwolaethau mewn anifeiliaid a geir wrth ymchwilio.
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyrwyddo'r tri nod - disodli gweithdrefnau ag eraill nad ydynt yn defnyddio anifeiliaid, lleihau'r nifer o anifeiliaid a ddefnyddir a mireinio triniaethau i leihau poen a dioddefaint.
Wrth brofi diogelwch, mae'r technegau mwyaf defnyddiol a ddatblygwyd hyd yma yn lle defnyddio anifeiliaid (disodli) wedi eu seilio ar:
Mae'r dulliau hyn wedi disodli defnyddio anifeiliaid mewn nifer fechan o brofion, ond prin fu'r llwyddiannau hyd yma ac mae pethau'n datblygu'n arafach nag a hoffai'r RSPCA. Y rhesymau am hynny yw:
Dyma enghreifftiau o leihau:
Nawr mae'n amser penderfynu - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Dylem ddal i ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil a phrofion, fel y gallwn wella cyffuriau i bobl."