"Ddylen ni ddim profi meddyginiaethau ar anifeiliaid, dim hyd yn oed frechlynnau sydd i fod i'w helpu."
Beth yw brechlynnau anifeiliaid?
Mae brechlynnau'n helpu i rwystro anifeiliaid rhag dal a datblygu clefydau heintus, fel ffliw cathod, AIDS cathod, TB buchol, mycsomatosis a chlwy'r traed a'r genau. Yn union fel pobl, gellir brechu anifeiliaid iach â brechlynnau i'w gwarchod rhag clefyd penodol. Mae'r brechlyn yn cynhyrchu gwrthgyrff sy'n rhoi imiwnedd i'r corff rhag dal y clefyd yn y dyfodol.
Pam mae angen i ni eu profi ar anifeiliaid?
Mae'n rhaid profi meddyginiaethau ar gyfer anifeiliaid ar anifeiliaid eraill i weld a ydynt yn ddiogel ac effeithiol, ac mae hynny'n golygu bod un garfan o anifeiliaid yn elwa ar draul un arall. Mae hyn yn peri cyfyng-gyngor i bawb sy'n caru anifeiliaid ac nad ydynt am eu gweld yn dioddef. Mae penderfynu beth sy'n iawn a beth sy'n anghywir mewn amgylchiadau o'r fath yn anodd iawn.
Dysgu mwy
Defnyddir tua 425,000 o anifeiliaid yn yr UE bob blwyddyn i gynhyrchu a phrofi brechlynnau ar gyfer anifeiliaid. Cŵn, cathod, ceffylau, bochdewion a moch cwta - dim ond rhai o'r anifeiliaid a ddefnyddir yw'r rhain. Gallwch ddysgu mwy yma.
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf hwn: "Ni ddylem brofi meddyginiaethau ar anifeiliaid, dim hyd yn oed frechlynnau i'w helpu."
Ai dim ond ar gyfer anifeiliaid anwes y mae brechlynnau'n cael eu datblygu?
Defnyddir brechlynnau nid yn unig i ddiogelu anifeiliaid anwes, ond hefyd anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt.
Dysgu mwy
Yn 2001, trawyd y diwydiant amaeth yn y Deyrnas Unedig gan glwy'r traed a'r genau. Er mwyn rheoli lledaeniad y clefyd, lladdwyd o leiaf chwe miliwn o anifeiliaid, gan achosi £3.1 biliwn o golledion i amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd. Talodd y llywodraeth £2.5 biliwn mewn iawndal am anifeiliaid a laddwyd a chostau gwaredu a glanhau. Effeithiodd y clwy hefyd ar dwristiaeth a diwydiannau gwledig eraill. Gallwch ddarganfod beth yw rhai o'r dadleuon dros ac yn erbyn defnyddio brechlyn i reoli'r clefyd yn y ddolen hon.
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Ni ddylem brofi meddyginiaethau ar anifeiliaid, dim hyd yn oed frechlynnau i'w helpu."
Beth sy'n digwydd i anifeiliaid mewn arbrofion ar gyfer brechlynnau milfeddygol?
Er y gall gwyddonwyr wneud peth o'u hymchwil heb niweidio anifeiliaid, mae'r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i bob meddyginiaeth filfeddygol gael ei phrofi yn y pen draw ar anifeiliaid cyn ei defnyddio, i ddangos ei bod yn gweithio a'i bod yn ddiogel. Gall y profion hyn beri llawer o ddioddefaint i'r anifeiliaid hynny. Mae natur a chyfnod dioddefaint anifail wrth ddatblygu ac arbrofi gyda meddyginiaeth filfeddygol yn dibynnu'n aml ar ddifrifoldeb y cyflwr y bwriedir y feddyginiaeth ar ei gyfer.
Er enghraifft, gall cŵn labordy ddioddef yn fawr pan gânt eu defnyddio i ddatblygu a phrofi brechlynnau ar gyfer cyflyrau sy'n peryglu bywydau cŵn anwes. Er mwyn gweld a fydd brechlyn yn gwarchod ci rhag clefyd sy'n peryglu bywyd, caiff y brechlyn ei roi i rai cŵn ac ni chaiff ei roi i gŵn eraill. Yn ddiweddarach, rhoddir y clefyd y mae'r brechlyn wedi ei gynllunio i ddiogelu cŵn rhagddo i bob un o'r cŵn. Gall y cŵn nad ydynt wedi eu brechu fynd yn sâl iawn, ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid lladd rhai ohonynt rhag eu bod yn dioddef mwy. Mae'r prawf yn dangos bod y brechlyn yn gweithio os bydd pob un o'r cŵn a frechwyd yn aros yn iach.
Wrth brofi mathau eraill o gynnyrch, fel triniaethau rhag llyngyr a chwain, a dietau arbennig, go brin y bydd yr anifeiliaid yn dioddef llawer o niwed. Y rheswm am hynny yw bod y cynhyrchion wedi eu cynllunio i drin cyflyrau sy'n gymharol ddiniwed os na chânt eu gadael heb eu trin am amser maith.
Dysgu mwy
Beth yw'r pryderon sydd gan yr RSPCA o ran defnyddio anifeiliaid i ddatblygu brechlynnau ar gyfer anifeiliaid eraill? Beth yw'r polisi ar ddefnyddio brechlynnau a brofwyd ar anifeiliaid? Edrychwch yn y ddolen hon.
Nawr mae'n amser rhoi eich barn - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Ni ddylem brofi meddyginiaethau ar anifeiliaid, dim hyd yn oed frechlynnau i'w helpu."
Dysgu mwy
Cewch wybodaeth am ddulliau llywodraeth y Deyrnas Unedig o reoli clefydau yn dolen.
Beth yw eich barn chi?
A fyddai'n iawn gadael i glefydau weithredu fel dull rheoli naturiol? Beth fyddai manteision ac anfanteision atal defnyddio anifeiliaid mewn ymchwil ac arbrofion ar gyfer brechlynnau anifeiliaid? Os daliwn ati i ddatblygu brechlynnau, pa ddewisiadau eraill fyddai ar gael yn hytrach na defnyddio anifeiliaid i'w datblygu? A pha ffyrdd eraill fyddai'n bosibl o reoli poblogaethau o anifeiliaid?
Munud i feddwl
Erbyn hyn, mae modd rhwystro clefydau difrifol fel clefyd y cŵn (distemper) trwy frechu. Chwiliwch i ddarganfod gwybodaeth am symptomau ac effeithiau clefyd y cŵn. Ydych chi'n meddwl ei bod yn beth da fod gennym frechlynnau i'w rwystro erbyn hyn, neu a fuasai wedi bod yn well gadael i'r clefyd ddilyn ei gwrs?
Pa dystiolaeth allwch chi ei darganfod bod angen dal ati i ddatblygu brechlynnau newydd i anifeiliaid?
Nawr mae'n amser penderfynu - cofiwch eich bod yn pleidleisio i ddweud a ydych yn cytuno neu beidio â'r achos a wnaed gan y cymeriad cyntaf: "Ni ddylem brofi meddyginiaethau ar anifeiliaid, dim hyd yn oed frechlynnau i'w helpu."